Cilie – cysgu 5
Cafodd y fflat yma ei henwi ar ôl - Bois y Cilie.
Teulu o feirdd gwlad a fagwyd ar fferm y Cilie, Cwmtudu – pentref nid nepell o Dresaith. Fel y dywed y diweddar lenor T. Llew Jones amdanynt: "Roedd e’n deulu mawr o ddeuddeg o blant - pump o ferched a saith o fechgyn - i gyd yn epil y gof a’r bardd Jeremiah Jones a’i wraig Mary. Aeth dau o'r bechgyn i’r Weinidogaeth a dod yn bregethwyr mwyaf amlwg a phoblogaidd eu dydd." "Enillodd un mab Gadair a Choron yr Eisteddfod Genedlaethol a dyrchafwyd tri ohonynt i urdd y wisg wen yng Ngorsedd y Beirdd am eu cyfraniad i farddoniaeth Gymraeg." "Enillodd un arall wobr yr ‘Academi’ am gyfrol o farddoniaeth orau’r flwyddyn. Cyhoeddodd y brodyr rhyngddynt ryw ddeg o gyfrolau o farddoniaeth a rhyddiaith"