Canolfan Tresaith – cysgu hyd at 44
- yn cysgu hyd at 44 o bobol – dau ddorm yn cysgu 20 yr un (10 bync) gyda ystafell lai yn sownd i bob dorm, yn cysgu 2 yr un (1 bync).
- 200 llath o'r traeth
- cegin ac ystafell fwyta/fyw fawr
- dwy ystafell ymolchi fawr gyda nifer o dai bach a chawodydd – un yn sownd i un dorm, un yn sownd i'r llall
- cawodydd yn y ddwy ystafell lai
- huriadau preifat yn unig rydym yn ei gynnig – byddwch yn hurio'r holl adeilad a ddim yn rhannu gyda unigolion/grwpiau eraill
- grwpiau rhwng 15 a 44 o bobol
- isafswm o ddwy noson i grwpiau rhwng 15 a 30
- prisiau: £15 y pen y noson i oedolion a £12 y pen y noson i blant dan 16
- cysylltwch yn uniongyrchol gyda ni i archebu lle
- mae lle i barcio o flaen y ganolfan – os nad oes digwydd bod lle, mae maes parcio ychwanegol ger y siop wrth y traeth. Gofynwn i chi, os ydy'r cerbydau ddim yn mynd i gael llawer o ddefnydd yn ystod eich arhosiad i symud y cerbyd i lawr i'r maes parcio er mwyn rhyddhau lle
- Ni chaniateir grwpiau o blant dan 18 oed heb nifer penodol o oedolion dros 25
- Mae rhai pethau yn cael eu darparu a rhai pethau sydd angen i chi ddod eich hunain – gan gynnwys sachau cysgu neu ddillad gwely. Mae rhestr lawr ar gael.