hafan
llety
prisiau
atyniadau
geirda
diwylliant
siop
english

Un tro, amser maith yn ôl...

Tarddiad yr enw Tresaith yn ôl y chwedl yw, nôl mewn hanes cyn co’, roedd yna frenin yn Iwerddon wedi cael llond bola o’i saith merch anystywallt. Bu’n ceisio ers tro i’w rheoli, ond wedi rhyw gamwedd fe gollodd ei amynedd â nhw a’u gorchymyn iddynt fynd i ffwrdd mewn llong heb rwyfau na hwyliau ar y môr. Cymerodd tonau Môr yr Iwerydd hwynt tuag at Gymru, at Geredigion, ac fe’u llongddrylliwyd yma. Adroddasant eu hanes i deulu caredig a’u helpodd i’w cludo i’w cartref, Llanborth. Aeth sïon amdanynt ar hyd y lle, ac yn y pen draw fe gwympodd meibion i ffermwyr cyfagos mewn cariad â hwynt. Fe’u priodwyd gan gymryd drosodd saith o ffermydd gorau’r ardal.

Mae'n ddigon posib i'r saith ffermwr lleol ddangos eu cariad drwy naddu llwyau caru fel sydd wedi bod yn draddodiad yn ein gwlad am flynyddoedd maith

Cychwynnodd y traddodiad o gerfio a rhoi Llwy Garu yng Nghymru gannoedd o flynyddoedd yn ôl. Yn wreiddiol byddai gwyr ifanc yn eu cerfio ac yn eu cyflwyno i'w cariadon fel arwydd o'u serch. Yn awr mae'r traddodiad wedi lledu trwy gydol y byd. Maent yn anrhegion delfrydol i gofio am ymweliad o Gymru neu ar gyfer Penblwydd Priodas, Priodas, Dyweddiad, Penblwydd neu yn syml rhodd o Ddiolch.

01239 811 565    heledd@tresaith.net    07780 548 288