hafan
llety
prisiau
atyniadau
geirda
diwylliant
siop
english

Fronifor – gwyliau ym Mae Ceredigion...

Croeso i deuluoedd aros yn un o’n 3 fflat clyd o fewn Fronifor, tŷ sydd ond 500 llath o draeth poblogaidd Tresaith. Gall 2/3 aros yn fflat Eluned; 4 aros yn fflat Tŷ Llew; 5 aros yn fflat Cilie.

Croeso i dripiau ysgolion, ysgolion Sul, criwiau dysgu Cymraeg, mudiadau o bob math ac i griwiau o ffrindiau a theuluoedd ddod at ei gilydd i logi'r Ganolfan am gyfnodau byr neu hir.

'Côd post y fflatiau a'r Ganolfan yw SA43 2JL. Mae cyfarwyddiadau pellach ar sut i gyrraedd y fflatiau a'r Ganolfan ar gael yma.

Dim plant o dan 18 oed i aros heb fod ganddynt oruwchwyliaeth oedolyn.

Mae Tresaith yn bentref clyd ym mae Ceredigion, ar arfordir gorllewin Cymru. Gallwch ddod i aros yma i ymlacio a hamddena wrth y traeth gan wylio’r dolffiniaid, neu i fwynhau pob math o chwaraeon dwr ar un o draethau saffaf a phrydferthaf Cymru. I’r rheiny ohonoch sy’n dymuno cerdded yr arfordir yna mae llwybr yr arfordir yn mynd heibio i Siop y Traeth gan ddilyn yr arfordir draw at Aberporth i’r de a Llangrannog i’r gogledd.

   pysgodfflat@hotmail.com    07780 548 288