hafan
llety
prisiau
atyniadau
geirda
diwylliant
siop
english
Aberteifi

Tref farchnad hynafol, a’r porth i ddyffryn Teifi. Gorwedd Aberteifi 8 milltir i’r de ar hyd yr arfordir o Dresaith. Wrth bont Aberteifi gwelir y castell a adeiladwyd yn wreiddiol o bren gan y Normaniaid, ac wedyn o garreg gan y Cymro, yr Arglwydd Rhys. Newidiodd ddwylo yn ôl a blaen sawl gwaith rhwng Norman a Chymro, ond mae ei bwysigrwydd i’r Cymry yn fyw inni heddi gan mai yn y castell hwn y cynhaliwyd yr Eisteddfod gyntaf o dan dywysogaeth Rhys ap Gruffydd, yr Arglwydd Rhys. Mae gan Aberteifi Theatr lewyrchus iawn, y Mwldan, gyda sinema gyfforddus hefyd.

Gwbert ac Ynys Aberteifi

3 milltir o dref hynafol Aberteifi (sydd 8 milltir i’r de o Dresaith) y mae Gwbert. 200 llath un unig o arfordir Gwbert ceir Ynys Aberteifi sydd yn eiddo i Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gorllewin Cymru. Gerllaw Gwbert, gan edrych drosodd at yr ynys, y mae Fferm Arfordirol Ynys Aberteifi. Gallwch fel teulu cyfan, fwynhau yng nghwmni anifeiliaid Cymreig megis yr ebolion mynydd Cymreig a’r defaid wrth gwrs, ac yng nghwmni anifeiliaid o dramor megis ‘wallabies’, ‘emus’ a ‘llamas’! Ar agor o 10yb - 6yh bob dydd o Ebrill 4ydd (Pasg) tan ddiwedd Hydref, gan ail agor ar y Pasg canlynol 01239623637 - www.cardiganisland.com

Cilgerran

Gorwedd pentref Cilgerran 3 milltir i’r de o Aberteifi, a thros y ffin yn sir Benfro. Cymerwch beth amser yn cerdded yr ardal gan ymweld â chastell hynafol Cilgerran. Ceunant Cilgerran - Nid nepell o’r pentref y mae Canolfan Natur Cymru sydd ar agor o Ebrill i Hydref, 10.30yb - 5yh. Mae’r Warchodfa Natur Corsydd Teifi ar y llaw arall, ar agor gydol y flwyddyn. Fel awgryma’r enw, yr afon a red i mewn i’r môr yn nhref Aberteifi, yw afon enwog y Teifi. Gallwch gymryd taith canŵ neu kayak i lawr yr afon hon, i lawr drwy geunant bendigedig ac wrth ymyl ardal natur. Gallwch drefnu tripiau o grwpiau mawr yn ogystal. 01239 613961 - www.heritagecanoes.co.uk Gallwch ofyn am siaradwyr Cymraeg.

Cenarth

Cwrwgl Cenarth - Y mae pentref Cenarth yn fan y gellid gweld yr afon Teifi ar ei gorau. Mae yna lwybr ar hyd yr afon er mwyn gweld y rhaeadrau, ac mae’n fan poblogaidd i weld eogiaid yn neidio. Mae’n bentref hynafol - y bont tua 200 mlwydd oed, y felin o’r 17eg ganrif a’r dafarn leol o’r 16eg ganrif! Wrth feddwl am Genarth, cyfeiria lawer ato fel yr ychydig fannau y gwelir dynion yn pysgota mewn cwrwgl o hyd. Ar lan yr afon ceir Canolfan Cwryglau a gellid ymweld â’r Hen Felin yn ogystal. Wrth ddilyn arwyddion am Abercych, dilynwch arwyddion am Gaws Cenarth - caws hynod o boblogaidd a blasus. Yma gallwch weld y broses o wneud caws a chael ei flasu. Ar agor yn ddyddiol ar wahân am ddydd Sul, a’r amser gorau i ymweld yw 11yb - 2yh Os oes gennych egni i’w losgi, gallwch roi cais ar ymladd â pheli paent a llu o weithgareddau eraill 01559 371621 www.cenarth-adventure.co.uk Gallwch ofyn am siaradwyr Cymraeg.

Cei Newydd

14 milltir ar hyd y brif heol i’r gogledd o Dresaith, mae tref fechan Cei Newydd. Credir mai dyma’r dref y lleolodd yr awdur Dylan Thomas ei ddrama ‘Dan y Wenallt’ (Under Milk Wood). Mae’n lleoliad prysur iawn gydol yr haf, a man y gellid trefnu teithiau cwch i ymweld â’r arfordir cyfagos, ynghyd â bywyd gwyllt y môr a chael gweld y dolffiniaid a’r morloi - www.new-quay.com Dydd 01545 560032, Hwyr 01545 580444 Ar hyd yr heol i lawr am Gei Newydd, ceir amgueddfa wahanol a diddorol - Amgueddfa Fêl. Gallwch weld y daith i greu’r mêl blasus - dilyn hynt y gwenyn yn gweithio yn eu gwahanol amgylchfyd, ac o fewn cychod wedi’u hadeiladu’n bwrpasol i chi gael gweld eu tu fewn. Maent hefyd yn cynhyrchu medd Cymreig ar y llecyn hwn a chyfle i chi gael ei flasu www.thehoneyfarm.co.uk

01239 811 565    heledd@tresaith.net    07780 548 288