Canslo
Canslo Gwyliau neu Rhan o Wyliau
Rhaid i chi roi gwybod i ni yn ysgrifenedig o'ch cansliad cyn gynted â phosibl – 01239 811565 / heledd@tresaith.net neu, os ydych yn archebu trwy'r calendr ar y wefan, a thrwy hynny drwy gwmni y Gorau o Gymru gallwch roi gwybod ysgrifenedig iddyn nhw o'r cansliad.
Y diwrnod yr ydym yn derbyn eich hysbysiad i ganslo eich gwyliau yw'r dyddiad y byddwn yn canslo eich archeb.
Yn ddibynnol ar reswm y cansliad mae posibiliad y gallwch, yn ôl ein disgresiwn ni, dderbyn yr holl arian yr ydych wedi ei dalu eisoes am y gwyliau yn ôl ag hepgor y taliad archebu (os yn berthnasol), a thaliad gweinyddol o £60. Mae mwy o wybodaeth isod ynglŷn â'r achosion y baswn yn barod i ystyried hyn. Mewn achosion eraill, byddwch yn rwymedig i dalu tâl llawn y gwyliau heblaw y byddwn yn gallu ail osod y llety yn ystod y dyddiadau eich gwyliau, neu rannau o'r dyddiadau hynny. Yn yr achosion hynny byddwn yn fodlon ystyried ad-daliad, ag hepgor y taliad archebu (os yn berthnasol), a thaliad gweinyddol o £90.
Os, ar ôl i chi archebu a thalu am eich gwyliau y gwelwch bod rhaid i ganslo am y rhesymau isod:
* gwr/gwraig/cymar, plentyn, rhiant, rhiant-yng-nghyfraith, brawd, chwaer neu ddiweddu. ** Cyd-Gyfarwyddwr/wraig neu Partner Busnes
Ond ddim yn cynnwys:
Byddwn fel arfer, ond yn llwyr ar ein disgresiwn ni ein hunain, yn ad-dalu'r hyn rydych wedi'i dalu eisoes am y gwyliau ag hepgor y taliad archebu (os yn berthnasol), a thaliad gweinyddol o £60 neu mewn achos o dorri'r gwyliau yn fyr, y cyfran o'r gwyliau yr ydych wedi'i golli ag hepgor y taliad archebu (os yn berthnasol), a thaliad gweinyddol o £60.
Mewn achosion eraill byddwn yn ceisio ail-osod y llety ac os yn llwyddiannus byddwn fel arfer yn ystyried ad-dalu cost y gwyliau ag hepgor y taliad archebu (os yn berthnasol), a thaliad gweinyddol o £90 ac unrhyw gostau eraill sydd yn resymol i'w hystyried wrth geisio ailfarchnata'r gwyliau. Ni fydd y blaendal yn cael ei dalu yn ôl mewn achosion o'r fath. Os nad ydym yn llwyddiannus yn ail-osod y llety, bydd dal angen talu yn llawn am y gwyliau.
Ein penderfyniad ni fydd yn derfynol ym mhob achos.
Os fyddwch chi angen canslo eich gwyliau, os gwelwch yn dda ffoniwch ni yn syth bin ar 01239 811565 gan anfon ebost o fewn 2 ddiwrnod at heledd@tresaith.net